Search website

Apiau Symudol

Mae apiau am ddim y gallwch eu lawr lwytho i gael mynediad at ein Catalog Llyfrgell, e-Lyfrau, e-Lyfrau Sain, e-Gylchgronau ac e-Gomics

Pori

Mynediad at gatalogau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru o'ch dyfais Android.
• Adnewyddu llyfrau ar-lein
• Archebu llyfrau ar-lein
• Rheoli'ch cyfrif
• Chwiliwch gatalog y rhan fwyaf o lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru
• Chwiliwch am lyfr yn ôl teitl, awdur, allweddeiriau neu ISBN
• Cliciwch ymlaen o ganlyniadau’r chwiliad er mwyn lawrlwytho e-lyfr ac e-lyfr llafar am ddim os ydynt yng nghatalog llyfrgelloedd Cymru. Lawrlwytho yn hawdd o dudalennau'r chwiliad heb logio i wefan arall, os ydych yn aelod llyfrgell.

Borrow Box

Mae’r ap hwn yn caniatáu i chi lawr lwytho hyd at 6 e-Lyfr Sain a 6 e-Lyfr ar y tro. Gallwch eu benthyg am 21 diwrnod ac nid oes ffi am lyfrau hwyr - dim ond dileu’r teitl pan fydd y cyfnod benthyg drosodd. Mewngofnodwch gyda rhif eich Cerdyn Llyfrgell (yr wyth digid ar ôl y GWP) a rhif PIN.

Libby

Mae’r ap hwn yn caniatáu i chi gadw neu lawr lwytho hyd at 10 e-Lyfr Sain neu e-Lyfr ar y tro. Gallwch eu benthyg am 21 diwrnod. Mae’r teitlau’n cael eu dychwelyd yn awtomatig pan fydd y cyfnod benthyg drosodd, felly nid oes dirwyon am lyfrau hwyr.

Mae Libby hefyd yn caniatáu i chi ddarllen ystod eang o gylchgronau a chomics am ddim. Mae rhywbeth i bawb o ddiddordebau, gwyddoniaeth ac addurno’r cartref i gylchgronau merched ac amserlenni teledu. Mae digon o gomics i blant hefyd o Spider-Man a’r X-Men, i Star Wars a Disney. Mae gennym nofelau graffig i ddarllenwyr hŷn hefyd. Cofrestrwch yn defnyddio rhif eich Cerdyn Llyfrgell (yr wyth digid ar ôl y GWP) a chyfeiriad e-bost.

Heb rif Cerdyn Llyfrgell neu rif PIN?

Mae eich rhif ar gefn eich Cerdyn Llyfrgell, sef yr wyth digid ar ôl GWP, yn cynnwys unrhyw lythrennau ond nid bylchau (er enghraifft 1234567X). Peidiwch â phoeni os ydych wedi colli eich cerdyn, gallwch gael un newydd am ffi fechan, Cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Mae eich rhif PIN pedwar digid yn unigryw i chi. Os ydych wedi ei anghofio, cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Dim yn aelod o Lyfrgelloedd Conwy? Gallwch ddod yn aelod am ddim, a gallwch ymuno ar-lein yma.

https://wales.ent.sirsidynix.n...