Llyfrgell Ddigidol
Dysgwch sut i osod y Llyfrgell Ddigidol a’i defnyddio, yn cynnwys Catalog y Llyfrgell, e-Lyfrau, Llyfrau Llafar*, Adnoddau Ar-lein ac Apiau Symudol.
*Darperir e-lyfrau llafar Conwy gan BorrowBox o Ebrill 5ed 2023. Bydd ystod eang o deitlau ar gael, cofiwch bydd angen i gwsmeriaid ailosod ceisiadau ar ein platfform blaenorol Libby.

e-Lyfrau
Os yw’n well gennych ddarllen llyfrau ar eich dyfais eich hun, gallwch gael mynediad at ddewis anferthol o e-Lyfrau, i’w darllen ar eich soffa gyfforddus. Lawr lwythwch yr apiau am ddim, BorrowBox neu Libby a gwnewch gais am lyfr.,

Llyfrau Llafar
Ydych chi’n hoffi gwrando ar lyfrau llafar wrth fynd? Os yw’n well gennych wrando wrth yrru, gwneud gwaith tŷ neu ymlacio yn yr ardd, mae gennym ystod eang o e-Lyfrau Llafar ar gael. Darperir e-lyfrau llafar Conwy gan BorrowBox o Ebrill 5ed 2023. Bydd ystod eang o deitlau ar gael, cofiwch bydd angen i gwsmeriaid ailosod ceisiadau ar ein platfform blaenorol Libby.

Papurau Newydd a Chylchgronau
Nid dim ond llyfrau sydd gennym! Mae gennym lawer o paperau newydd, gylchgronau, nofelau graffig a chomics y gallwch eu darllen drwy lawr lwytho ein ap Pressreader am ddim.

Adnoddau Ar-lein
Ydych chi’n gwneud gwaith ymchwil ar gyfer prosiect neu angen help gyda’ch gwaith cartref? Mae gennym adnoddau defnyddiol ar-lein i’ch helpu. Mae’r holl adnoddau hyn ar gael yn eich llyfrgell leol a rhai ohonynt o gartref.

Apiau Symudol
Mae apiau am ddim y gallwch eu lawr lwytho i gael mynediad at ein Catalog Llyfrgell, e-Lyfrau, e-Lyfrau Sain, e-Gylchgronau ac e-Gomics

National Data Bank
