Sachau Stori a Bagiau ‘Bag Books’
Gwnewch amser stori yn hyd yn oed fwy o hwyl!
Gallwch fenthyg Sachau Stori i blant ifanc. Maen nhw’n cynnwys llyfr lluniau a phropiau a gemau fel pypedau llaw neu deganau rhyngweithiol yn seiliedig ar y stori. Gellir eu benthyg am ddim a gallwch ofyn am un o unrhyw lyfrgell.
Mae ein bagiau ‘Bag Books’ am ddim yn becynnau stori i blant ag anableddau dysgu. Mae ein casgliad yn llyfrgell Llandudno ond gallwch ofyn am fagiau aml-synhwyrau o unrhyw lyfrgell.