Search website

Theory Test Pro

Ydych chi’n dysgu gyrru? Neu efallai eich bod eisiau profi eich gwybodaeth am y ffordd? Mae Theory Test Pro yn rhoi efelychiad realistig ar-lein i chi o brawf gyrru theori'r DU ar gyfer pob categori o gerbydau. Mae’n cynnwys yr holl gwestiynau prawf swyddogol gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, sy’n gosod y profion.

IMG 2895

Theory Test Pro yn llyfrgelloedd Conwy

Mae Theory Test Pro yn rhoi efelychiad realistig iawn ar-lein i chi o brawf gyrru theori’r DU. Mae’n cynnwys y banc o gwestiynau prawf swyddogol, clipiau fideo canfod perygl a fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr. Mae’r holl ddeunyddiau wedi cael eu trwyddedu gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, sy’n gosod y profion.

Gall unrhyw breswylwyr sy’n galw i unrhyw un o lyfrgelloedd Conwy ddefnyddio Theory Test Pro am ddim. Gall aelodau llyfrgelloedd Conwy hefyd ddefnyddio Theory Test Pro y tu allan i’r llyfrgelloedd yn defnyddio eu rhif cerdyn.

Syt i gofrestru â Theory Test Pro

Y tro cyntaf y byddwch yn ei ddefnyddio, bydd arnoch angen cofrestru gyda’ch enw, cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Ni chodir tâl am hyn. Mae’r wybodaeth yn caniatáu i Theory Test Pro gadw sgôr eich profion fel y gallwch olrhain eich cynnydd wrth i chi ymarfer am y prawf.

Bydd arnoch angen cyfeiriad e-bost dilys i gofrestru â Theory Test Pro.

Os byddwch yn cofrestru o gartref neu unrhyw le arall y tu allan i’r llyfrgell, bydd arnoch hefyd angen rhif cod bar llyfrgell dilys, sydd ar eich cerdyn llyfrgell.

Dangosir popeth yn yr un fformat â’r prawf swyddogol. Byddwch hefyd yn cael fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr a fideos yn profi pa mor dda ydych am ganfod peryglon.

Crëwch eich cyfrif eich hun am ddim ac i ffwrdd â chi. Pob lwc!