Search website

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

As a member of Conwy Libraries you get free access to the National Library of Wales’s online resources. These include academic journals, encyclopaedias and newspaper archives dating back to Victorian times.

Fel aelod o Lyfrgelloedd Conwy, cewch fynediad am ddim i adnoddau ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cylchgronau academaidd, gwyddoniaduron ac Archifau papur newydd yn dyddio’n ôl i oes Fictoria.

Mae’n rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru, gyda chod post o Gymru i weld yr adnoddau hyn am ddim. Ond mae rhai adnoddau ar gael heb fod angen cofrestru, fel:

  • Lleoedd Cymru - Chwiliwch drwy dros 300,000 o fapiau degwm Cymru sy’n rhoi gwybodaeth am berchnogaeth tir hanesyddol a’i ddefnydd
    [https://lleoedd.llyfrgell.cymr...]
  • Cylchgronau Cymru - Chwiliwch drwy gylchgronau academaidd, gwyddonol, llenyddol a phoblogaidd yn ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1735 a 2007
    [https://cylchgronau.llyfrgell....]
  • Papurau Newydd Cymru – Cewch fynediad at 15 miliwn o erthyglau papur newydd o Gymru gyfan yn dyddio o 1804 i 1919 yn cynnwys y North Wales Weekly News, Western Mail a Llandudno Advertiser
    [https://papuraunewydd.llyfrgel...]
  • Y Bywgraffiadur Cymreig – darllenwch dros 5,000 o fywgraffiadau gan bobl sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol, un ai yng Nghymru neu du hwnt. Mae llinell amser ryngweithiol, neu gallwch bori fesul cyfenw [https://bywgraffiadur.cymru/]

Mae llawer mwy o adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol ar gael am ddim. Dyma restr lawn o’r hyn sydd ar gael. [https://www.llyfrgell.cymru/da...]