Search website

Darllen ar y Cyd

Mae darllen ar eich pen eich hun yn rhoi boddhad, ond gall darllen gydag eraill fod yr un mor bleserus ac ysbrydoledig. Beth am rannu stori fer neu gerdd gydag eraill mewn lleoliad hamddenol, cyfeillgar?

Gallwch wrando a mwynhau’n unig, neu gymryd cyfle i ddarllen yn uchel eich hun. Mae rhannu llyfrau mewn grŵp yn eich galluogi i rannu syniadau ac angerdd am y gwaith, yn ogystal â sgwrsio â ffrindiau.

Mae ein grwpiau Darllen ar y Cyd yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy amdanoch eich hun ac eraill drwy’r llawenydd o rannu llenyddiaeth wych. Mae am ddim, a darperir lluniaeth.

I wybod mwy am ein grwpiau Darllen ar y Cyd, cysylltwch â ni.