Llyfrgelloedd Conwy
Mae gennym 5 Llyfrgell Ardal a 5 Llyfrgell Gymunedol. Mae ein Llyfrgelloedd Ardal yn Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst. Mae’r Llyfrgelloedd Cymunedol yng Ngherrigydrudion, Bae Cinmel, Llanfairfechan, Penmaenmawr a Bae Penrhyn.

Llyfrgell Abergele
Rydym wedi bod ar Stryd y Farchnad ers dros 50 mlynedd, wedi i ni agor ein drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar Ddydd Calan 1969. I ddechrau, roeddem ar gornel Stryd y Farchnad a Chapel Street (sydd bellach yn siop llysieuydd), ond rydym wedi bod yng nghalon y gymuned erioed.

Llyfrgell Uwchaled, Cerrigydrudion
Mae’n debyg mai ein llyfrgell ni yw un o’r rhai lleiaf yng Nghymru, ond rydym yn dal i chwarae rôl hanfodol ym mywyd ein cymuned. Agorwyd y llyfrgell i’r cyhoedd i ddechrau dros 60 o flynyddoedd yn ôl, gan symud o ystafelloedd y plwyf i adeilad y cyn glinig iechyd yn 2002.

Llyfrgell Bae Colwyn
Fe agorom ein drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ym mis Ebrill 1905 i ddathlu coroni Brenin Edward y VII. Talwyd costau adeiladu’r adeilad gan y cyhoedd, yn cynnwys y noddwr hael Andrew Carnegie, a roddodd £3,800 – mae hynny’n fwy na £400,000 heddiw!

Canolfan Ddiwylliant Conwy
Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy ger waliau hynafol tref Conwy. Dewch i wybod am ddiwylliant, a threftadaeth y sir a mwy!

Llyfrgell Bae Cinmel

Llyfrgell Llandudno
Mae llyfrgell gyhoeddus wedi bod yn Llandudno ers 1855, pan oedd yn rhan o adeilad sydd bellach yn safle Gwesty’r Grand ger y pier. Agorwyd llyfrgell bwrpasol yn 1873 ar Stryd Mostyn a Reform Street, ac mae’r ddwy goeden llwyfen Camperdown ar flaen yr adeilad yn dal yno ers hynny!

Llyfrgell Llanrwst
Rydym yn adeilad yr hen lys ym Mhlas yn Dre ond nid dyma ein safle cyntaf yn y dref. I ddechrau, roeddem yn adeilad yr Institiwt, ac yna yn yr adeilad ble mae meithrinfa Traed Bach rŵan, cyn symud i Blas yn Dre.

Llyfrgell Llanfairfechan
Agorodd ein llyfrgell gyntaf ar ddiwedd yr 1950au mewn hen siop groser, a adeiladwyd yn 1875 ac rydym wedi bod yno ers hynny, yng nghalon ein cymuned.

Llyfrgell Penmaenmawr
Cafodd ein llyfrgell bresennol ei hadeiladu’n bwrpasol yng nghanol y 1970au a chafodd ei hailwampio yn 2012. Cyn hynny, roeddem ar Ffordd yr Eglwys yn y dref.

Llyfrgell Bae Penrhyn
Rydym wedi bod ar y safle ar Ffordd Llandudno ers 50 mlynedd, gan agor ein drysau i’r cyhoedd yn 1971. Gwnaed gwaith ailwampio mawr yma yn 2015 pan gawsom gegin a thoiledau cyhoeddus newydd. Mae ein gerddi cymunedol yn ennill gwobrau’n rheolaidd yn y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau