Search website

Dechrau Da

Ydych chi wedi dod yn rhiant yn ddiweddar ac eisiau i’ch babi ddechrau mwynhau llyfrau’n gynnar?

Mae’r cynllun Dechrau Da yn rhoi pecyn am ddim i fabanod hyd at flwydd oed gan eu hymwelwyr iechyd.

Rhoddir ail becyn i blant rhwng 18 a 30 mis oed. Mae pob pecyn yn cynnwys dau lyfr, cylchgrawn a gwybodaeth am sut y gall eich plentyn ddod yn aelod o’r llyfrgell.

Anogwch gariad at lyfrau a darllen yn eich plentyn pan fydd yn ifanc i roi dechrau da mewn bywyd. Ewch i wefan Dechrau Da i wybod mwy.