Search website

Pan fyddwch yn chwilio drwy ein catalog, gallwch weld yr holl lyfrau gwahanol sydd gennym yn ein llyfrgelloedd, yn ogystal ag mewn llyfrgelloedd eraill ledled Gogledd Cymru. Gallwch:

  • Chwilio yn ôl awdur, teitl, pwnc neu ISBN
  • Gweld cloriau’r llyfrau
  • Darllen broliant y llyfr
  • Edrych drwy adolygiadau
  • Gweld ym mha lyfrgell mae copïau
  • Gosod cais am lyfr i gael ei nôl i’ch llyfrgell leol

Gallwch hefyd reoli eich cyfrif. Gallwch:

  • Weld pa lyfrau sydd gennych wedi eu benthyca
  • Gweld pryd maen nhw i fod yn ôl
  • Adnewyddu eich llyfr
  • Talu unrhyw ddirwyon
  • Newid eich manylion personol
  • Gosod eich rhestrau darllen eich hun

Clicio’r ddolen i chwilio’r catalog neu fewngofnodi i’ch cyfrif. Cofiwch y byddwch angen cael rhif eich Cerdyn Llyfrgell a’ch PIN.

https://conwy.spydus.co.uk/cgi-bin/spydus.exe/MSGTRN/WEL_OPAC/HOME



Heb rif Cerdyn Llyfrgell neu rif PIN?

Mae eich rhif ar gefn eich Cerdyn Llyfrgell, sef yr wyth digid ar ôl GWP, yn cynnwys unrhyw lythrennau ond nid bylchau (er enghraifft 1234567X). Peidiwch â phoeni os ydych wedi colli eich cerdyn, gallwch gael un newydd am ffi fechan, Cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Mae eich rhif PIN pedwar digid yn unigryw i chi. Os ydych wedi ei anghofio, cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Dim yn aelod o Lyfrgelloedd Conwy?

Gallwch ddod yn aelod am ddim, a gallwch ymuno ar-lein yma.

https://conwy.spydus.co.uk/cgi-bin/spydus.exe/MSGTRN/WEL_OPAC/HOME