Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn
Gall llyfrau eich helpu i ddeall a rheoli eich iechyd a’ch lles eich hun. Mae gennym lyfrau a argymhellir gan arbenigwyr iechyd yn ogystal â phobl sydd â phrofiad bywyd i’w rannu. Gall y llyfrau hyn eich helpu chi, eich perthnasau neu ofalwyr.
Gall gweithiwr proffesiynol iechyd argymell Llyfrau ar Bresgripsiwn i chi neu gallwch fynd i’ch llyfrgell leol a’u dewis drosoch eich hun.
Mae gennym lyfrau Darllen yn Well ar bynciau fel:
- Pryder ac iselder
- Dementia
- Anhwylderau bwyta
- Profedigaeth
- Hunan barch gwael
Mae adrannau ar Iechyd a Lles ym mhob llyfrgell sy’n cynnwys materion iechyd meddwl a chorfforol, i oedolion a phlant. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, holwch aelod o staff ac fe ddown o hyd i’r llyfr cywir i chi.