Search website

Adnoddau Ar-lein

Ydych chi’n gwneud gwaith ymchwil ar gyfer prosiect neu angen help gyda’ch gwaith cartref? Mae gennym adnoddau defnyddiol ar-lein i’ch helpu. Mae’r holl adnoddau hyn ar gael yn eich llyfrgell leol a rhai ohonynt o gartref.

Theory Test Pro

Theory Test Pro

Ydych chi’n dysgu gyrru? Neu efallai eich bod eisiau profi eich gwybodaeth am y ffordd? Mae Theory Test Pro yn rhoi efelychiad realistig ar-lein i chi o brawf gyrru theori'r DU ar gyfer pob categori o gerbydau. Mae’n cynnwys yr holl gwestiynau prawf swyddogol gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, sy’n gosod y profion.

Learn My Way

Learn My Way

Ydych chi’n dymuno gwella eich sgiliau defnyddio’r rhyngrwyd? Efallai eich bod angen cymorth i ddod o hyd i swydd ar-lein, neu eisiau gwybod sut i reoli eich arian neu eich iechyd?

Cylchgrawn Which

Cylchgrawn Which

Ydych chi’n bwriadu prynu peiriant golchi, gliniadur neu gar newydd? Ydych chi’n cynllunio gwyliau ac eisiau gwybod pa yswiriant yw’r gorau? Oes arnoch chi angen cyngor ar forgeisi neu bensiynau? Gall y rhai sy’n gwarchod buddiannau cwsmeriaid yng nghylchgrawn Which eich helpu i siopa’n fwy doeth drwy gymharu cynnyrch.

Mynediad at Ymchwil

Mynediad at Ymchwil

Gall myfyrwyr ac ymchwilwyr ddarganfod byd o waith ymchwil academaidd cyhoeddedig, o gelf a phensaernϊaeth i fusnes a pheirianneg, o hanes ac ieithoedd i fathemateg a’r gwyddorau.

Achau

Achau

Ydych chi’n ymchwilio i hanes eich teulu? Gallwch ddatblygu eich coeden deulu’n gyflym drwy chwilio’r cyfrifiad, cofnodion milwrol a mewnfudo ar-lein, yn ogystal â chofnodion Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau.

Darganfod fy Ngorffennol

Darganfod fy Ngorffennol

Ydych chi’n ymchwilio i hanes eich teulu? Gallwch ddatblygu eich coeden deulu’n gyflym drwy chwilio’r cyfrifiad, cofnodion milwrol a mewnfudo ar-lein, yn ogystal â chofnodion Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau

Archif Papurau Newydd Prydeinig

Archif Papurau Newydd Prydeinig

Os ydych yn caru hanes, byddwch yn caru’r adnodd hwn. Os ydych yn ymchwilio eich coeden deulu, yn gefnogwr pêl-droed brwd, neu’n chwilfrydig am y gorffennol, gyda’r Archif Papurau Newydd Prydeinig, mae hanes ar flaenau eich bysedd.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

As a member of Conwy Libraries you get free access to the National Library of Wales’s online resources. These include academic journals, encyclopaedias and newspaper archives dating back to Victorian times.