Search website
DSC 1241

Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn dechrau Dydd Sadwrn Gorffennaf 5 2025 a bydd yn cynnwys gweithgareddau am ddim i deuluoedd.

Mae’r sialens eleni’n dathlu creadigrwydd a gallu plant i ddweud stori gyda’r thema, Gardd o Straeon yn edrych ar natur, ein hamgylchedd a chynefinoedd naturiol.

Yn ystod yr haf, gall plant rhwng 4-11 oed ymweld ag unrhyw lyfrgell yn Sir Conwy i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf, a thanio eu dychymyg drwy rym darllen a mynegiant creadigol.

Gofynnir i’r blant ddarllen 6 llyfr (neu fwy!) cyn diwedd yr haf.

Byddant yn cael poster casglwyr arbennig pan fyddant yn ymuno â’r Sialens Ddarllen, sticeri pan fyddant yn ymweld â’r llyfrgell i gael mwy o lyfrau a thystysgrif a gwobr pan fyddant yn cwblhau’r sialens.

Bydd plant yn cael eu hannog i edrych ar lyfrau a straeon newydd yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim, o gelf a chrefft i garddio a mwy.

Mae’r Sialens eleni yn cynnwys gwaith celf gan y darlunydd llwyddiannus, Dapo Adeola. Bydd ei ddarluniau yn dod â’r thema Gardd o Straeon yn fyw; gan greu byd hudolus lle gall plant ddarganfod blodau, planhigion a chreaduriaid hudolus i ysbrydoli eu hantur ddarllen nesaf.

Mae’r sialens yn syml:

  • Tyrd i’r llyfrgell i gofrestru i ddechrau eu sialens.
  • Ar dy ymweliad cyntaf, cei becyn sy’n egluro sut mae’r sialens yn gweithio.
  • Tyrd i’r llyfrgell dair gwaith dros wyliau’r haf a darllen cymaint o lyfrau ag rwyt ti eisiau.
  • Trwy gydol y sialens, byddi’n cael mwy o sticeri ac anrhegion!
  • Beth am roi cynnig arni? Ac fe gei di dystysgrif a medal erbyn diwedd yr haf

Gallwch ymweld â gwefan 'The Reading Agency' am ragor o wybodaeth!