Search website

Borrowbox

Mae gan y gwasanaeth BorrowBox ystod eang o e-lyfrau ac e-lyfrau sain ar gael i chi eu lawr lwytho i’ch cyfrifiadur neu’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol i’w darllen neu i wrando arnynt. Mae llyfrau Cymraeg a Saesneg, ffuglen a ffeithiol a llyfrau i oedolion a phlant.

Eicon Borrowbox gyda thestun yn dweud Benthyca, lawrlwytho a mwynhau yma mae eich llyfrgell mewn un ap.

Gyda dros 12,000 o e-lyfrau, mae BorrowBox yn cynnig mwy o ddewis, cynnwys a hyblygrwydd. Gallwch fewngofnodi gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch rhif pin. Yna gallwch ddechrau lawr lwytho a mwynhau’r cynnig gwell hwn.