Search website

Papurau Newydd a Chylchgronau

Nid dim ond llyfrau sydd gennym! Mae gennym lawer o paperau newydd, gylchgronau, nofelau graffig a chomics y gallwch eu darllen drwy lawr lwytho ein ap Libby am ddim.

Nid dim ond llyfrau sydd gennym! Mae gennym lawer o gylchgronau, nofelau graffig a chomics y gallwch eu darllen drwy lawr lwytho ein ap Libby am ddim.

Mae rhywbeth i bawb yn cynnwys:

  • Diddordebau a chwaraeon
  • Gwyddoniaeth a ffotograffiaeth
  • Addurno’r cartref
  • Cylchgronau adloniant
  • Amserlenni teledu.

Mae digon o gomics i blant hefyd fel:

  • Spider-Man a’r X-Men
  • Star Wars a Star Treck
  • Disney a theitlau teuluol.

Mae gennym nofelau graffig i ddarllenwyr hŷn hefyd.

Ac os hoffech wybod am newyddion y dydd, gallwch ddefnyddio PressReader i ddarllen papurau newydd a chylchgronau o bob cwr o’r byd. Pan fyddwch yn mewngofnodi, dewiswch ‘Llyfrgell neu Grŵp’ a chwiliwch am Conwy.

Byddwch angen rhif eich Cerdyn Llyfrgell a’ch PIN i fewngofnodi. Byddwch angen ychwanegu’r cod 95P cyn rhif eich cerdyn.

Heb rif Cerdyn Llyfrgell neu rif PIN?

Mae eich rhif ar gefn eich Cerdyn Llyfrgell, sef yr wyth digid ar ôl GWP, yn cynnwys unrhyw lythrennau ond nid bylchau (er enghraifft 1234567X). Peidiwch â phoeni os ydych wedi colli eich cerdyn, gallwch gael un newydd am ffi fechan, Cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Mae eich rhif PIN pedwar digid yn unigryw i chi. Os ydych wedi ei anghofio, cysylltwch â’ch llyfrgell leol.

Dim yn aelod o Lyfrgelloedd Conwy?

Gallwch ddod yn aelod am ddim, a gallwch ymuno ar-lein yma.

hhttps://wales.ent.sirsidynix.n...