Search website

Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref

Rydym yn cynnig Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref i bobl nad ydynt yn gallu ymweld â’n llyfrgelloedd neu Lyfrgell Symudol.

Bu cynnydd mawr yn y galw am y gwasanaeth hwn ers 2019, felly rydym yn asesu pob cais yn unigol.

Ydych chi’n bodloni’r meini prawf? Ydych chi:

  • Yn methu gadael eich cartref am resymau corfforol neu resymau iechyd eraill?
  • Yn gaeth i’r tŷ, heb unrhyw deulu na ffrindiau sy’n gallu casglu llyfrau i chi?
  • Yn methu â defnyddio gwasanaethau llyfrgell pan fyddwch yn gofalu am rywun sy’n gaeth i’r tŷ?

I wybod mwy am y Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref ffoniwch 01492 576139 neu llenwch y ffurflen gais.

https://www.conwy.gov.uk/cy/Re...