Search website

Grwpiau Darllen

Rhannwch eich angerdd dros ddarllen ag eraill, darganfod awduron newydd neu gael eich ysbrydoli i roi cynnig ar rywbeth newydd drwy ymuno â’n grwpiau darllen misol.

Grwpiau misol dan arweiniad staff y llyfrgell:

  • Llyfrgell Abergele - Dydd Mercher 6.30pm
  • Llyfrgell Bae Colwyn - Dydd Iau 2.30pm
  • Llyfrgell Bae Colwyn, Grŵp Trosedd - Dydd Mawrth 7pm
  • Llyfrgell Conwy - Dydd Mawrth 2pm
  • Llyfrgell Bae Cinmel - Dydd Llun 2pm
  • Llyfrgell Llandudno - Dydd Mercher 2pm
  • Llyfrgell Llanrwst - Dydd Iau 2pm (Cymraeg)

Aelodaeth Flynyddol

Mae ffi aelodaeth flynyddol o £12 yn cynnwys:

  • aelod o staff y llyfrgell i arwain y grŵp
  • man cyfarfod mewn llyfrgell
  • ystod eang o setiau grwpiau darllen

Os byddai’n well gennych arwain eich grŵp eich hun yn y llyfrgell a defnyddio ein cyfleusterau, codir ffi lai o £6 i bob aelod o’r grŵp.

Casgliadau Grwpiau Darllen

Gall aelodau'r llyfrgell fenthyca setiau Grwpiau Darllen.

Os hoffech fenthyca set ar gyfer eich grŵp darllen, llyfrgell@conwy.gov.uk, neu cysylltwch â’ch llyfrgell leol. Gallwch bori drwy’r setiau Grwpiau Darllen ar-lein ac ychwanegu bob teitl at restr yn defnyddio ‘Ychwanegu at Fy Rhestrau’. Gallwch e-bostio’r rhestr atoch eich hun i’w golygu a chynnwys nifer y copïau sydd eu hangen, cyn ei e-bostio i’r llyfrgell.