e-Lyfrau
Os yw’n well gennych ddarllen llyfrau ar eich dyfais eich hun, gallwch gael mynediad at ddewis anferthol o e-Lyfrau, i’w darllen ar eich soffa gyfforddus. Lawr lwythwch yr apiau am ddim, BorrowBox neu Libby a gwnewch gais am lyfr.,
Borrowbox
Mae gan y gwasanaeth BorrowBox ystod eang o e-lyfrau ac e-lyfrau sain ar gael i chi eu lawr lwytho i’ch cyfrifiadur neu’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol i’w darllen neu i wrando arnynt. Mae llyfrau Cymraeg a Saesneg, ffuglen a ffeithiol a llyfrau i oedolion a phlant.
Libby
Mae Libby yn ap am ddim ble gallwch fenthyca e-lyfrau, llyfrau sain digidol a chylchgronau o’ch llyfrgell.
U-Library
Mae U-Library nawr ar gael i aelodau Llyfrgelloedd Conwy.