Llyfrau Llafar
Ydych chi’n hoffi gwrando ar lyfrau llafar wrth fynd? Os yw’n well gennych wrando wrth yrru, gwneud gwaith tŷ neu ymlacio yn yr ardd, mae gennym ystod eang o e-Lyfrau Llafar ar gael. Darperir e-lyfrau llafar Conwy gan BorrowBox o Ebrill 5ed 2023. Bydd ystod eang o deitlau ar gael, cofiwch bydd angen i gwsmeriaid ailosod ceisiadau ar ein platfform blaenorol Libby.
Ydych chi’n hoffi gwrando ar lyfrau llafar wrth fynd? Os yw’n well gennych wrando wrth yrru, gwneud gwaith tŷ neu ymlacio yn yr ardd, mae gennym ystod eang o e-Lyfrau Llafar ar gael.
Lawr lwythwch yr ap am ddim gan BorrowBox, i ofyn am lyfr. Os oes arnoch angen help i lawr lwytho neu ddefnyddio’r ap, edrychwch ar ein canllawiau defnyddiol.
Heb rif Cerdyn Llyfrgell neu rif PIN? Mae eich rhif ar gefn eich Cerdyn Llyfrgell, sef yr wyth digid ar ôl GWP, yn cynnwys unrhyw lythrennau ond nid bylchau (er enghraifft 1234567X). Peidiwch â phoeni os ydych wedi colli eich cerdyn, gallwch gael un newydd am ffi fechan, Cysylltwch â’ch llyfrgell leol.
Mae eich rhif PIN pedwar digid yn unigryw i chi. Os ydych wedi ei anghofio, cysylltwch â’ch llyfrgell leol. Dim yn aelod o Lyfrgelloedd Conwy? Gallwch ddod yn aelod am ddim, a gallwch ymuno ar-lein yma.