Search website

Y Llyfrgell Deithiol

Mae ein Llyfrgell Deithiol newydd sbon yn ymweld â chymunedau ledled Conwy nad oes ganddynt adeilad llyfrgell eu hunain.

Mae’n gwbl hygyrch a gellir mynd â chadeiriau olwyn i mewn, ac mae’n cynnig:

  • Llyfrau ffuglen a ffeithiol i oedolion, oedolion ifanc a phlant
  • Llyfrau mewn print bras
  • Llyfrau siarad ar MP3 a CD

Gallwch ymuno â’r llyfrgell pan fyddwch arni – bydd angen i chi ddod â dull adnabod gyda’ch enw a chyfeiriad arno, fel trwydded yrru neu fil.

Gallwch ddarganfod a yw’r Llyfrgell Deithiol yn ymweld â’ch ardal chi drwy lawr lwytho’r amserlen gyfredol. Amserlenni teithiau'r llyfrgell deithiol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth Llyfrgell Deithiol, llenwch y ffurflen ymholiadau

[https://www.conwy.gov.uk/cy/Re...] neu ffoniwch 01492 576139.