Search website

Llyfrgell Bae Penrhyn

Rydym wedi bod ar y safle ar Ffordd Llandudno ers 50 mlynedd, gan agor ein drysau i’r cyhoedd yn 1971. Gwnaed gwaith ailwampio mawr yma yn 2015 pan gawsom gegin a thoiledau cyhoeddus newydd. Mae ein gerddi cymunedol yn ennill gwobrau’n rheolaidd yn y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau

Rydym yn llyfrgell gymunedol a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac aelodau grŵp llywio lleol.

Yn Llyfrgell Bae Penrhyn gallwch:

  • Fwynhau mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus
  • Mewngofnodi i Wi-Fi am ddim
  • Argraffu neu sganio dogfennau
  • Dod â’ch teulu i lyfrgell y plant

Mae gennym ddigwyddiadau rheolaidd hefyd yn cynnwys:

  • Grwpiau darllen yn Gymraeg a Saesneg
  • Grŵp barddoniaeth
  • Grŵp crosio
  • Grwpiau U3A (Prifysgol y Drydedd Oes) mewn Ffrangeg, Groeg a Lladin
  • Clinig cymorth clyw misol

Yn ddiweddar rydym wedi ychwanegu oriel fechan ble gall artistiaid lleol arddangos eu gwaith.

Mae’r llyfrgell i gyd ar y llawr gwaelod ac rydym yn hollol hygyrch i’r anabl. Mae gennym hefyd doiledau cyhoeddus a Dolen Glyw. Mae safle bws gerllaw a mannau parcio yn nhu blaen y llyfrgell ac ar y stryd.

Cysylltu â ni

Ffordd Llandudno

Bae Penrhyn

LL30 3HN

Ffôn: 01492 577549

E-bost: llyfrgell.baepenrhyn@conwy.gov.uk

Ein horiau agor yw:
Dydd LlunAr gau
Dydd Mawrth10:00 a.m. - 1:00 p.m.
Dydd Mercher2:00 p.m. - 5:00 p.m.
Dydd Iau10:00 a.m. - 1:00 p.m. & 3:00 p.m. - 6:00 p.m.
Dydd Gwener2:00 p.m. - 5:00 p.m.
Dydd SadwrnAr gau
Dydd SulAr gau
Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt