Search website

Gardd y Synhwyrau

Chwilio am rywle i ymlacio neu i sgwrsio â ffrind?

Y tu ôl i’r Ganolfan Ddiwylliant, mae gardd heddychlon â llwybrau a seddi hygyrch. Gallwch eistedd ar fainc i wrando ar bobl leol yn adrodd hanesion ac edmygu’r planhigion yn y gwelyau blodau yn yr Ardd Berlysiau.

Mae’r Ardd Berlysiau yn ein cysylltu â hanes Conwy cyn i’r castell gael ei adeiladu, pan oedd mynachod Aberconwy yn tyfu perlysiau meddyginiaethol yn yr ardal hon. Incredible Edible Conwy sy’n gofalu am y planhigion hyn – gallwch helpu eich hun i berlysiau a llysiau ganddynt, ac o unrhyw un o’u gerddi a blychau eraill yn y dref.

Arwydd ‘Croeso’ dwyieithog ar gyfer yr Ardd Synhwyraidd
Llun agos o wenyn ar flodyn
Tybiau plannu pren a gwelyau blodau yn yr Ardd Synhwyraidd y tu ôl i Ganolfan Ddiwylliant Conwy
Perlysiau mewn potyn yn yr Ardd Synhwyraidd y tu ôl i Ganolfan Ddiwylliant Conwy
Arwydd ‘Croeso’ dwyieithog ar gyfer yr Ardd Synhwyraidd