Search website

Llyfrgell Penmaenmawr

Cafodd ein llyfrgell bresennol ei hadeiladu’n bwrpasol yng nghanol y 1970au a chafodd ei hailwampio yn 2012. Cyn hynny, roeddem ar Ffordd yr Eglwys yn y dref.

Rydym yn llyfrgell gymunedol a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac aelodau grŵp llywio lleol.

Yn Llyfrgell Penmaenmawr gallwch:

  • Fwynhau mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus
  • Mewngofnodi i Wi-Fi am ddim
  • Argraffu neu sganio dogfennau
  • Dod â’ch teulu i lyfrgell y plant

Mae gennym ddigwyddiadau cymunedol rheolaidd yma yn cynnwys:

  • Amser stori Cymraeg i Blant
  • Sesiynau ioga
  • Grŵp darllen
  • Darllenwch fwy am y digwyddiadau cymunedol yn ei llyfrgell www.theeyepenmaenmawr.org

Mae gan ein llyfrgell fynediad i’r anabl yn ogystal â Dolen Glyw a gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain. Mae safle bws gerllaw ar Ffordd Bangor a mannau parcio o flaen y llyfrgell. Mae gennym hefyd doiledau cyhoeddus a chyfleusterau newid babanod.

Cysylltu â ni

Ffordd Bangor

Penmaenmawr

LL34 6DA

Ffôn: 01492 577548

E-bost: llyfrgell.penmaenmawr@conwy.gov.uk

Ein horiau agor yw:
Dydd LlunAr gau
Dydd Mawrth10:00 a.m. - 1:00 p.m. & 2:00 p.m. - 5:00 p.m.
Dydd MercherAr gau
Dydd Iau2:00 p.m. - 5:00 p.m.
Dydd GwenerAr gau
Dydd Sadwrn10:00 a.m. - 1:00 p.m.
Dydd SulAr gau
Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt