Search website

Ystafell Gymunedol

Gallwch archebu’r ystafell gyfarfod gymunedol ar gyfer eich digwyddiad.

Mae’r dewisiadau canlynol ar gael:

- seddi cynhadledd/theatr i hyd at 56 o bobl

neu

- byrddau a chadeiriau i hyd at 35 o bobl

neu

- gellir rhannu'r ystafell yn 2 ystafell lai, gyda byrddau i hyd at 15 o bobl ym mhob un

Mae gwres dan y llawr yn yr ystafell a llawr coed. Cysylltwch â Llyfrgell Conwy am brisiau a thelerau ac amodau. Pan fyddwch wedi archebu’r ystafell, mae pecynnau arlwyo ar gael gan y caffi Cantîn.