Search website

Llyfrgell Llanrwst

Rydym yn adeilad yr hen lys ym Mhlas yn Dre ond nid dyma ein safle cyntaf yn y dref. I ddechrau, roeddem yn adeilad yr Institiwt, ac yna yn yr adeilad ble mae meithrinfa Traed Bach rŵan, cyn symud i Blas yn Dre.

Rydym yn rhannu’r adeilad gydag adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau’r cyngor ac mae eu depo gerllaw. Mae gennym hefyd sesiynau galw heibio wythnosol ar gyfer gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau’r cyngor.

Rydym yn falch iawn o’n Canolfan Wybodaeth Iechyd Macmillan, a sefydlwyd yn 2014 i roi gwell mynediad i bobl at lyfrau am salwch cronig, lles, iechyd a ffitrwydd cyffredinol ac adnoddau ysbrydoledig fel llenyddiaeth a barddoniaeth glasurol.

Yn Llyfrgell Llanrwst gallwch:

  • Fwynhau mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus
  • Mewngofnodi i Wi-Fi am ddim
  • Argraffu, sganio neu lungopïo dogfennau
  • Llogi ystafell gymunedol
  • Dod â’ch teulu i lyfrgell y plant
  • Ymweld ag aelod o staff Refeniw a Budd-daliadau
  • Defnyddio’r Ganolfan Wybodaeth Iechyd Macmillan

Mae gennym hefyd ddigwyddiadau rheolaidd yn cynnwys:

  • Amser stori i rai dan 5 oed
  • Sesiynau blasu ar-lein
  • Grŵp darllen

Mae gan y llyfrgell fynediad i’r anabl, Dolen Glyw, meddalwedd Boardmaker i helpu â chyfathrebu a gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain byw. Mae safle bws ar garreg y drws a mannau parcio y tu ôl i’r llyfrgell. Mae gennym hefyd doiledau cyhoeddus a chyfleusterau newid babanod.

Cysylltu â Ni

Plas yn Dre

Ffordd yr Orsaf

Llanrwst

LL26 0DF

Ffôn: 01492 577545

E-bost: llyfrgell.llanrwst@conwy.gov.uk

Ein horiau agor yw:
Dydd Llun9:30 a.m. - 5:00 p.m.
Dydd Mawrth9:30 a.m. - 5:00 p.m.
Dydd Mercher10:00 a.m. - 7:00 p.m.
Dydd Iau9:30 a.m. - 5:00 p.m.
Dydd Gwener9:30 a.m. - 5:00 p.m.
Dydd Sadwrn9:30 a.m. - 12:30 p.m.
Dydd SulAr gau
Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt