
Hanes Llyfrgell Bae Colwyn
Fe agorom ein drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ym mis Ebrill 1905 i ddathlu coroni Brenin Edward y VII. Talwyd costau adeiladu’r adeilad gan y cyhoedd, yn cynnwys y noddwr hael Andrew Carnegie, a roddodd £3,800 – mae hynny’n fwy na £400,000 heddiw!
Agorodd ein llyfrgell y plant yn 1933 ac ehangwyd yr adeilad yn 1962. Gwnaed gwaith ailwampio mawr yn 2016 hefyd. Rydym yn rhannu’n llyfrgell â Chanolfan Ddysgu’r Bae Grŵp Llandrillo Menai. https://www.gllm.ac.uk/cy/cour...
Yn Llyfrgell Bae Colwyn gallwch:
Mae gennym hefyd ddigwyddiadau rheolaidd yn cynnwys:
Mae gan y llyfrgell fynediad i’r anabl, yn cynnwys lifft, yn ogystal â Dolen Glyw a meddalwedd addysgol Boardmaker.
Rydym mewn safle delfrydol yng nghanol y dref ac mae safle bws gerllaw ar Ffordd Abergele a rhai mannau parcio ar y stryd.
Mae gennym doiledau cyhoeddus a chyfleusterau newid babanod ar y llawr gwaelod a thoiled i’r anabl ar y llawr cyntaf.
Cysylltu â Ni
Ffordd Coetir Orllewinol
Bae Colwyn
LL29 7DH
Ffôn: 01492 577510
E-bost: llyfrgell.baecolwyn@conwy.gov.uk
Ein horiau agor yw: | |
---|---|
Dydd Llun | 9:00 a.m. - 5:30 p.m. |
Dydd Mawrth | 10:00 a.m. - 7:00 p.m. |
Dydd Mercher | 9:00 p.m. - 5:30 p.m. |
Dydd Iau | 9:00 a.m. - 5:30 p.m. |
Dydd Gwener | 9:00 a.m. - 5:30 p.m. |
Dydd Sadwrn | 9:30 a.m. - 3:00 p.m. |
Dydd Sul | Ar gau |
Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt |
Hanes Llyfrgell Bae Colwyn