Search website

Llyfrgell Cerrigydrudion

Mae’n debyg mai ein llyfrgell ni yw un o’r rhai lleiaf yng Nghymru, ond rydym yn dal i chwarae rôl hanfodol ym mywyd ein cymuned. Agorwyd y llyfrgell i’r cyhoedd i ddechrau dros 60 o flynyddoedd yn ôl, gan symud o ystafelloedd y plwyf i adeilad y cyn glinig iechyd yn 2002.

Rydym yn llyfrgell gymunedol sy’n cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac aelodau o grŵp llywio lleol. Rydym wedi cael llawer o gefnogaeth gan y cyngor cymuned bob amser. Rydym yn cynnal prosiectau rheolaidd ag ysgolion a digwyddiadau gydag awduron i blant ac oedolion.

  • Yn Llyfrgell Cerrigydrudion gallwch:
  • Fwynhau mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus
  • Mewngofnodi i Wi-Fi am ddim
  • Argraffu neu sganio dogfennau
  • Dod â’ch teulu i lyfrgell y plant

Mae gennym hefyd ddigwyddiadau rheolaidd yn cynnwys:

  • Amser stori i rai dan 4 oed
  • Grŵp darllen i ddysgwyr Cymraeg

Mae gan y llyfrgell fynediad i’r anabl, ac mae safle bws gyferbyn ger Eglwys Santes Mair Magdalen. Mae maes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae gennym doiled cyhoeddus.

Cysylltu â Ni

Stryd y Brenin

Cerrigydrudion

LL21 9TF

Ffôn: 01492 577547

E-bost: llyfrgell.cerrig@conwy.gov.uk

Ein horiau agor yw:
Dydd LlunAr gau
Dydd Mawrth10:00 - 13:00, 13:30 - 17:00
Dydd MercherAr gau
Dydd Iau14:00 - 18:00
Dydd GwenerAr gau
Dydd SadwrnAr gau
Dydd SulAr gau
Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt