Gwybodaeth am Barcio a Mynediad
Os oes gennych fathodyn anabledd, gallwch barcio yn y Ganolfan Ddiwylliant.
Fel arall, gallwch ddefnyddio’r maes parcio i ymwelwyr ym Modlondeb. Mae hwn am ddim o ddydd Llun i ddydd Gwener – ac mae llwybr i’r Ganolfan Ddiwylliant. Mae meysydd parcio talu ac arddangos yn y dref hefyd (mae’r agosaf ym Mount Pleasant).
Mae mynediad da i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn drwy’r adeilad cyfan. Mae gwybodaeth ar gael drwy ddefnyddio fideos yn Iaith Arwyddion Prydain yn y Ganolfan ac mae meddalwedd Sign Solutions InterpretersLive! ar gael yn y llyfrgell.