Search website
Llun du a gwyn yn dangos torf fawr wedi ymgasglu y tu allan i Lyfrgell Rad y Coroni ym Mae Colwyn ar ddiwrnod ei hagor

Yn 1892, caniataodd y Ddeddf Llyfrgelloedd Rhydd i gynghorau godi hanner ceiniog ar y trethi i ddarparu llyfrgelloedd. Penderfynodd y Mudiad Dirwest ym Mae Colwyn bod llyfrgelloedd yn ffordd dda o gadw dynion ifanc o dafarndai. Mynychodd aelodau’r Mudiad gyfarfod y cyngor ym mis Rhagfyr 1901 gan fynnu llyfrgell i Fae Colwyn. Dan gadeiryddiaeth y Parchedig Thomas Parry, ffurfiwyd pwyllgor i fynd â’r syniad yn ei flaen.

Yn 1902, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y dref i benderfynu ar gofeb briodol i goffau Coroni Brenin Edward y VII. Penderfynwyd adeiladu llyfrgell.

Llun du a gwyn yn dangos y tu mewn i Ystafell Gylchgronau Llyfrgell Bae Colwyn gyda grŵp o blant a thri oedolyn yn defnyddio’r ystafell.

Sefydlwyd apêl a thanysgrifiodd pobl y dref. Cafwyd addewidion am lyfrau hefyd. Cynigiodd y miliwnydd Andrew Carnegie, a ariannodd adeiladu 3,000 o lyfrgelloedd cyhoeddus, rodd o £3,800, ar yr amod bod tŵr cloc arfaethedig yn cael ei dynnu o’r cynlluniau.

Erbyn mis Rhagfyr 1902, cyflwynwyd cynlluniau a phenodwyd Booth, Chadwick a Porter fel penseiri’r prosiect. Oherwydd ei leoliad canolog, dewiswyd Ffordd y Coetir fel safle.
Llun yn dangos allwedd aur a wnaed gan Emyddion W.Jones a’i Fab, Bae Colwyn ac a gyflwynwyd i Mrs. Thomas Parry ar gyfer ‘Agor Llyfrgell Rydd y Coroni’

Dechreuodd y gwaith ddiwedd mis Ionawr 1904 a’i gwblhau yn 1905 ac agorwyd y llyfrgell gan y Parchedig Thomas Parry ddydd Llun y Pasg, 24 Ebrill.

Fe’i hadeiladwyd gan gwmni Robert Evans a’i Fab, Hen Golwyn a chyfanswm y gost ar gyfer tir, adeiladu a dodrefnu’r llyfrgell oedd £5,436.

Llun du a gwyn o artist yn dangos darnau o waith celf i dri unigolyn

Arddangosfeydd Celf

Yn 1935, ystyriwyd bod ‘celf a phrofiadau esthetig yn hanfodion bywyd’ ac na ddylai ‘unrhyw dref na chymuned gael eu hamddifadu o’r cyfleusterau i werthfawrogi a mwynhau llawer o’r gwaith celf gorau oherwydd diffyg cyllid.’ (Rhagymadrodd, Arddangosfa’r Haf Flynyddol Gyntaf, Llyfrgell Gyhoeddus Bae Colwyn 1935).

I sicrhau bod pobl Bae Colwyn yn gallu ‘gwerthfawrogi a mwynhau gwaith celf’, ym mis Gorffennaf 1935, agorodd y Llyfrgell y cyntaf o gyfres o arddangosfeydd celf: arddangosfa o waith artistiaid lleol.

Dros y blynyddoedd, mae’r Llyfrgell wedi cynnal llawer o arddangosfeydd celf. Yn gynnar yn yr 1990au, daeth y cyn Ystafell Gylchgrawn yn oriel arddangos bwrpasol.

Erbyn 2003, oherwydd bod cyfleusterau newydd wedi cael eu darparu yn y llyfrgell, yn cynnwys 20 cyfrifiadur Rhwydwaith y Bobl, 10 ohonynt yn ardal yr oriel, collwyd gofod arddangos dros dro. Fodd bynnag, ym mis Ebrill 2005, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, agorwyd oriel arddangos newydd yng nghyntedd Llyfrgell Bae Colwyn.

Trên pren wedi ei lenwi gyda llyfrau yn yr adran blant mewn llyfrgell

Plant

Agorwyd llyfrgell y plant yn 1933 a thros y blynyddoedd, cynhaliwyd rhaglen amrywiol o weithgareddau i blant.

Mae Dechrau Da yn gynllun sy’n rhoi pecyn o lyfrau am ddim i fabanod gan eu Hymwelydd Iechyd yn eu harchwiliad 7-9 mis. Wedi’i lansio gan Booktrust, cynhaliwyd y cynllun ym Mwrdeistref Sirol Conwy ers 1999. Lansiwyd cynllun Dechrau Da newydd, a ariannwyd gan y Cynlluniad Cenedlaethol drwy’r Strategaeth Sgiliau Sylfaenol yn Llyfrgell Bae Colwyn ar 20 Tachwedd 2001.

Y cyfrifiaduron cyntaf i gyrraedd llyfrgell Bae Colwyn oedd y system Galaxy yn 1986. Ers aildrefnu llywodraeth leol yn 1996, roedd y llyfrgell yn rhan o’r rhwydwaith TalNet sy’n cynnwys pob llyfrgell gyhoeddus yn sir Conwy ynghyd ag Ynys Môn a Gwynedd. Roedd y system yn caniatáu i eitemau a fenthycwyd gael eu cyhoeddi a’u rhyddhau, ynghyd â mynediad at gatalog o’r holl stoc oedd ar gael yn y dair sir. Gellir cael mynediad at y cyfleusterau hyn dros y Rhyngrwyd hefyd.

Ym mis Awst 2003, lansiwyd Rhwydwaith y Bobl ym Mae Colwyn. Bellach, mae 20 o gyfrifiaduron cyhoeddus yn y llyfrgell sydd ar gael i’w defnyddio gan bawb sy’n ymweld â hi. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys mynediad at WiFi.