Llyfrgell Abergele
Rydym wedi bod ar Stryd y Farchnad ers dros 50 mlynedd, wedi i ni agor ein drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar Ddydd Calan 1969. I ddechrau, roeddem ar gornel Stryd y Farchnad a Chapel Street (sydd bellach yn siop llysieuydd), ond rydym wedi bod yng nghalon y gymuned erioed.
Mae rhai o’n cwsmeriaid wedi bod yn ymweld â ni ers degawdau, ac maen nhw bellach yn cyflwyno eu hwyrion a wyresau i’r llyfrgell!
Bu gwaith ailwampio mawr yma yn 2008 ac yn 2019, dathlodd y llyfrgell ei phen-blwydd yn 50 oed gyda diwrnod agored, darlleniadau a sgyrsiau a hyd yn oed gystadleuaeth ffuglen gyflym.
Yn Llyfrgell Abergele gallwch:
- Fwynhau mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus
- Mewngofnodi i Wi-Fi am ddim
- Argraffu, sganio neu lungopïo dogfennau
- Llogi ystafell gymunedol
- Dod â’ch teulu i lyfrgell y plant
- Dewis o ystod eang o nofelau llwyddiannus, poblogaidd, cyfoes ac arbenigol a llyfrau heb fod yn ffuglen mewn clawr papur a chlawr caled
- Print bras
- Llyfrau Llafar
- Archwilio ein llyfrau hanes lleol a theuluol a’n cynnig digidol
- Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn
- Darganfod llyfrau i gefnogi darllen a gwaith cartref eich plentyn
- Dewis awduron a llyfrau newydd i’w rhannu â’ch plentyn amser gwely
Mae gennym hefyd ddigwyddiadau rheolaidd yn cynnwys:
- Amser stori i rai dan 5 oed
- Sesiynau blasu ar-lein
- Grŵp darllen
Mae gan y llyfrgell fynediad i’r anabl, Dolen Glyw a meddalwedd addysgol Boardmaker. Mae safle bws gerllaw, y tu allan i Tesco, a nifer gyfyngedig o fannau parcio. Mae gennym doiledau cyhoeddus, yn cynnwys i’r anabl, a chyfleusterau newid babanod.
Cysylltu â Ni
Stryd y Farchnad
Abergele
LL22 7BP
Ffôn: 01492 577505
E-bost: llyfrgell.abergele@conwy.gov.uk
Ein horiau agor yw: | |
---|---|
Dydd Llun | 9:30 a.m. - 5:00 p.m. |
Dydd Mawrth | 9:30 a.m. - 1:00 p.m. |
Dydd Mercher | 1:30 p.m. - 7:00 p.m. |
Dydd Iau | 9:30 a.m. - 5:00 p.m. |
Dydd Gwener | 9:30 a.m. - 5:00 p.m. |
Dydd Sadwrn | 9:30 a.m. - 12:30 p.m. |
Dydd Sul | ar gau |
Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt |