Search website

Canolfan Gelfyddydau a Threftadaeth Gymunedol

Gallwn eich helpu i ddarganfod ffyrdd o ymlacio, dysgu a chael eich ysbrydoli drwy’r celfyddydau, treftadaeth a diwylliant.

Mae gennym weithgareddau a phrosiectau’n cynnwys:

  • Sesiynau blasu creadigol mewn celf a chrefft gweledol
  • Dosbarthiadau meistr ag arlunwyr proffesiynol
  • Sesiynau dawns a symud
  • Prosiectau Lles Creadigol ar gyfer iechyd meddwl gwell
  • Arddangosfeydd dros dro
  • Rhaglenni artistiaid preswyl
  • Prosiectau treftadaeth
  • Adrodd straeon
  • Gweithgareddau ac adnoddau hel atgofion i bobl sy’n byw â dementia
  • Criw Celf, rhaglen dosbarth meistr celf weledol i bobl ifanc mwy galluog a dawnus

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â sian.young@conwy.gov.uk

Cerfluniau cardfwrdd lliwgar o angenfilod
Gwaith celf haniaethol hynod liwgar o weithdy Jan Gardner
Person ifanc yn ei arddegau yn tynnu llun agos o ddrws glas llachar gyda graffiti pinc arno
Plant yn dal cerfluniau o wiail o flaen eu hwynebau, o weithdy Mandy Coates
Gweithiau celf gwydr lliwgar o weithdy Rhian Haf