Search website

Llyfrgell Llandudno

Mae llyfrgell gyhoeddus wedi bod yn Llandudno ers 1855, pan oedd yn rhan o adeilad sydd bellach yn safle Gwesty’r Grand ger y pier. Agorwyd llyfrgell bwrpasol yn 1873 ar Stryd Mostyn a Reform Street, ac mae’r ddwy goeden llwyfen Camperdown ar flaen yr adeilad yn dal yno ers hynny!

Adeiladwyd ein llyfrgell bresennol ar yr un safle ac fe agorodd ar 15 Medi 1910. Rhoddwyd cyfran o’r gost gan y noddwr Andrew Carnegie, sef £4,000 – mae hynny’n fwy na £400,000 heddiw!

Codwyd estyniad mawr i’r adeilad yn 1938 ac eto wedyn yn 1994, a chafodd ei ailwampio yn 2011.

Yn Llyfrgell Llandudno gallwch:

  • Fwynhau mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus
  • Mewngofnodi i Wi-Fi am ddim
  • Argraffu, sganio neu lungopïo dogfennau
  • Llogi ystafell gymunedol
  • Dod â’ch teulu i lyfrgell y plant
  • Defnyddio darllenydd microffilm i edrych ar hen bapurau newydd

Mae gennym hefyd ddigwyddiadau rheolaidd yn cynnwys:

  • Amser stori i rai dan 5 oed
  • Sesiynau blasu ar-lein
  • Grŵp darllen

Mae gan y llyfrgell fynediad i’r anabl, yn cynnwys lifftiau, yn ogystal â Dolen Glyw, meddalwedd Boardmaker i helpu â chyfathrebu a meddalwedd Iaith Arwyddion Prydain byw. Mae gennym safle delfrydol yng nghanol y dref gyda safle bws gerllaw ar Stryd Mostyn. Mae rhywfaint o fannau parcio ar y stryd ac mae gennym doiledau cyhoeddus a chyfleusterau newid babanod.

Cysylltu â Ni

Stryd Mostyn

Llandudno

LL30 2RP

Ffôn: 01492 574010

E-bost: llyfrgell.llandudno@conwy.gov.uk

Ein horiau agor yw:
Dydd Llun9:00 a.m. - 5:30 p.m.
Dydd Mawrth9:00 a.m. - 5:30 p.m.
Dydd Mercher9:00 a.m. - 5:30 p.m.
Dydd Iau10:00 a.m. - 7:00 p.m.
Dydd Gwener9:00 a.m. - 5:30 p.m.
Dydd Sadwrn9:30 a.m. - 3:00 p.m.
Dydd SulAr gau
Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt