Llyfrgell Llanfairfechan
Agorodd ein llyfrgell gyntaf ar ddiwedd yr 1950au mewn hen siop groser, a adeiladwyd yn 1875 ac rydym wedi bod yno ers hynny, yng nghalon ein cymuned.
Rydym yn llyfrgell gymunedol a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac aelodau grŵp llywio lleol.
Yn Llyfrgell Llanfairfechan gallwch:
- Fwynhau mynediad am ddim at gyfrifiaduron cyhoeddus
- Mewngofnodi i Wi-Fi am ddim
- Argraffu neu sganio dogfennau
- Dod â’ch teulu i lyfrgell y plant
- Cymryd rhan yn ein sesiynau amser stori rheolaidd.
Mae gan ein llyfrgell fynediad i’r anabl yn ogystal â Dolen Glyw a meddalwedd dehongli Iaith Arwyddion Prydain. Gellir parcio ar y stryd ar Village Road ac mae maes parcio am ddim ar Ffordd yr Orsaf. Mae gennym hefyd doiledau cyhoeddus a chyfleusterau newid babanod.
Cysylltu â ni
Village Road
Llanfairfechan
LL33 0AA
Ffôn: 01492 577538
| Ein horiau agor yw: | |
|---|---|
| Dydd Llun | Ar gau |
| Dydd Mawrth | 10:00 a.m. - 1:00 p.m. |
| Dydd Mercher | Ar gau |
| Dydd Iau | Ar gau |
| Dydd Gwener | 10:00 a.m. - 1:00 p.m. & 2:00 p.m. - 5:00 p.m. |
| Dydd Sadwrn | 10:00 a.m. - 1:00 p.m. |
| Dydd Sul | Ar gau |
| Rydym ar gau ar Wyliau Banc a’r dydd Sadwrn cynt |