Search website

Benthyciadau a Ffioedd

Nid yw’n costio dim i fod yn aelod o’r llyfrgell, nac i fenthyca neu lawr lwytho llyfrau, defnyddio ein cyfrifiaduron neu ymuno â’n sesiynau stori neu sesiynau blasu TG. Fodd bynnag, rydym yn codi ffi am rai gwasanaethau. Hyd at 31 Mawrth 2024, ni chodir dirwyon am eitemau hwyr.

DVDs

Rydym yn codi £2.20 yr wythnos am fenthyca ein DVDs. Os bydd y DVD yn hwyr, rydym yn codi £2.20 ychwanegol yr wythnos (neu ran o wythnos).

Argraffu a llungopïo

Mae gennym gyfleusterau argraffu ym mhob llyfrgell, a llungopïo yn Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst.

  • A4 du a gwyn - 25c y ddalen
  • A4 lliw - 65c y ddalen
  • A3 du a gwyn - 35c y ddalen
  • A3 lliw - £1.10 y ddalen
  • Mae argraffu microffilm, sydd ar gael ym Mae Colwyn a Llandudno, yn costio 65c am ddalen A4 a £1.30 am ddalen A3 (du a gwyn yn unig).

Mae argraffu, copïo ac ailgynhyrchu yn amodol ar hawlfraint.

Gwneud cais am eitemau

Os na allwch ddod o hyd i’r teitl rydych yn chwilio amdano yng Ngogledd Cymru, gallwn chwilio drwy lyfrgelloedd ledled Cymru i chi. Mae gofyn am deitl o Gymru yn rhad ac am ddim. Gallwn hefyd chwilio llyfrgelloedd y tu hwnt i Gymru, ac mae gosod cais Rhwng Llyfrgelloedd yn costio £12.00 yr eitem.

Eitemau sydd ar goll, wedi eu dwyn neu eu difrodi

Os bydd eitem ar goll, yn cael ei ddwyn neu ei ddifrodi pan fydd yn cael ei fenthyg i chi, byddwn yn codi tâl yn seiliedig ar gost yr eitem ynghyd â ffi brosesu o £7.00. Os mai eiddo gwasanaeth llyfrgell arall yw’r eitem, byddwn yn codi tâl yn seiliedig ar bolisi benthyca’r llyfrgell honno, ynghyd â ffi brosesu.

Cerdyn Llyfrgell newydd

Os byddwch yn colli neu’n difrodi eich Cerdyn Llyfrgell ac angen un newydd, mae’n costio £2.20 i oedolion a £1.60 i blant dan 16 oed.