Cael Cerdyn Llyfrgell
Gallwch ddod yn aelod mewn unrhyw lyfrgell, neu ymuno’n syth ar-lein.
Pan fyddwch yn dod yn aelod o unrhyw lyfrgell yng Nghonwy, cewch fynediad am ddim at gyfoeth o adnoddau.
Mae gennym 10 llyfrgell yn y sir, a gallwch ddefnyddio eich cerdyn ym mhob un ohonynt. Yn wir, pan fyddwch yn aelod o Lyfrgelloedd Conwy, byddwch hefyd yn dod yn aelod o deulu ehangach llyfrgelloedd Gogledd Cymru. Mae eich cerdyn yn ddilys ym mhob llyfrgell yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn hefyd.
Gyda’ch Cerdyn Llyfrgell Conwy gallwch:
- Fenthyg hyd at 20 llyfr y tro, am 3 wythnos
- Benthyg DVDs am wythnos, am ffi fechan
- Defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell am ddim (codir ffi am argraffu)
- Lawr lwytho e-Adnoddau am ddim, yn cynnwys llyfrau, llyfrau sain a chylchgronau
- Defnyddio adnoddau llyfrgell ar-lein am ddim yn cynnwys Which Magazine, Achau ac Archif Papurau Newydd Prydain
Byddwch hefyd yn cael eich cyfrif llyfrgell ddigidol eich hun. Gallwch fewngofnodi iddi gyda rhif eich Cerdyn Llyfrgell a’ch PIN unigryw, y byddwch yn ei gael wrth ymuno. Yn y llyfrgell ddigidol, gallwch weld pa lyfrau sydd gennym mewn stoc a’u cadw.
Y cyfan sydd arnoch ei angen i ymuno yw dogfen sy’n dangos eich enw a’ch cyfeiriad presennol megis trwydded yrru neu fil. Os ydych dan 16 oed, bydd arnoch angen caniatâd eich rhiant neu warcheidwad.
Gallwch ddod yn aelod mewn unrhyw lyfrgell, neu ymuno’n syth ar-lein.