Search website

Adnewyddu

Gallwch fenthyca eitemau am 3 wythnos, ond cyn belled â bod neb arall wedi eu cadw, gallwch eu hadnewyddu am gyfnod hirach.

Mae gwahanol ffyrdd o adnewyddu eitem:

Adnewyddu ar-lein

I adnewyddu ar-lein, dewiswch Mewngofnodi neu Fy Nghyfrif o’r fwydlen ar dop y sgrin.

I fewngofnodi byddwch angen:

Eich rhif llyfrgell – ar eich cerdyn llyfrgell (heb y GWP)

Eich PIN 4 rhif

Os ydych wedi anghofio eich PIN gallwch ei ailosod ar-lein drwy ddewis ‘Anghofio PIN’ yn y bocs ‘Mewngofnodi’ neu ‘Fy Nghyfrif’.

Gallwch ailosod eich PIN ar-lein dim ond os yw eich cyfeiriad e-bost presennol wedi ei ychwanegu at eich cyfrif llyfrgell. Os nad, cysylltwch â’r llyfrgell.

Adnewyddu dros y ffôn

Ffoniwch: 01492 576139

Byddwch angen eich rhif llyfrgell - ar eich cerdyn llyfrgell (heb y GWP)

Adnewyddu mewn llyfrgell

Gallwch ymweld ag unrhyw lyfrgell i adnewyddu eich eitemau. Byddwch angen eich cerdyn llyfrgell a’r eitem.

Cofiwch gael eich cerdyn llyfrgell yn barod wrth adnewyddu.

Cyfyngiadau adnewyddu

Llyfrau

Os nad oes unrhyw geisiadau am eitemau, gellir adnewyddu llyfrau hyd at bum gwaith.

DVDs

Mae DVDs yn cael eu benthyca am wythnos, codir tâl ychwanegol pan fyddant yn cael eu hadnewyddu.