Cadw Llyfr
Gallwch wneud cais am unrhyw deitl yn ein catalog am ddim, ac o unrhyw lyfrgell yng Ngogledd Cymru.
Gallwch wneud hyn gydag aelod o staff mewn llyfrgell, neu eich hun drwy eich cyfrif ar-lein.
Bydd faint o amser fydd hi’n cymryd i lyfr gyrraedd yn dibynnu ar ei boblogrwydd, nifer y copïau sydd gennym ac o ba lyfrgell mae’n dod.
Pan fydd y llyfr yn cyrraedd, byddwn yn cysylltu â chi dros e-bost neu ffôn i roi gwybod i chi ei fod yn barod i’w nôl. Fel arfer, byddwn yn eu cadw i chi am 10 diwrnod.