Search website

Hygyrchedd

Mae pob un o’n llyfrgelloedd yn hygyrch i bobl ag anableddau, ac mae gennym nifer o ffyrdd i helpu pobl sydd angen cymorth ychwanegol.

  • Mae gennym system Dolenni Sain i rai sy’n drwm eu clyw a thechnoleg Sign Solutions i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain.
  • Mae ein meddalwedd cyfrifiadurol Boardmaker yn cynnwys miloedd o luniau a symbolau y gellir eu defnyddio gan oedolion a phlant sydd angen cymorth ychwanegol i gyfathrebu, yn cynnwys rhai ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, Nam Iaith Penodol, pobl â phroblemau’r cof, pobl hŷn yn dioddef effeithiau strôc neu ddementia. Mae hefyd yn helpu pobl y mae’r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.
  • Mae gennym offer i wneud ein cyfrifiaduron yn haws eu defnyddio fel monitorau â sgrin fawr, desgiau uchder symudol, llygoden llwybro, a bysellfyrddau ag allweddi mawr.

Darllenwch fwy am ein gwasanaeth Sign Solutions InterpretersLive!

https://www.conwy.gov.uk/en/Council/Contact-Us/sign.aspx