Cefnogaeth Llyfrgell
Cael Cerdyn Llyfrgell
Gallwch ddod yn aelod mewn unrhyw lyfrgell, neu ymuno’n syth ar-lein.
Llyfrgell Ddigidol
Dysgwch sut i osod y Llyfrgell Ddigidol a’i defnyddio, yn cynnwys Catalog y Llyfrgell, e-Lyfrau, Llyfrau Llafar, Adnoddau Ar-lein ac Apiau Symudol.
Benthyciadau a Ffioedd
Nid yw’n costio dim i fod yn aelod o’r llyfrgell, nac i fenthyca neu lawr lwytho llyfrau, defnyddio ein cyfrifiaduron neu ymuno â’n sesiynau stori neu sesiynau blasu TG. Fodd bynnag, rydym yn codi ffi am rai gwasanaethau. Hyd at 31 Mawrth 2024, ni chodir dirwyon am eitemau hwyr.
Adnewyddu
Gallwch fenthyca eitemau am 3 wythnos, ond cyn belled â bod neb arall wedi eu cadw, gallwch eu hadnewyddu am gyfnod hirach.
Cadw Llyfr
Gallwch wneud cais am unrhyw deitl yn ein catalog am ddim, ac o unrhyw lyfrgell yng Ngogledd Cymru.
Gwasanaeth Benthyca Rhwng Llyfrgelloedd
Os ydych yn chwilio am deitl penodol ond yn methu dod o hyd iddo yn y catalog Gogledd Cymru gyfan, mae staff y llyfrgell yn hapus i chwilio ymhellach i chi.
WiFi ac Argraffu
Mae gennym WiFi am ddim ym mhob llyfrgell.
Hygyrchedd
Mae pob un o’n llyfrgelloedd yn hygyrch i bobl ag anableddau, ac mae gennym nifer o ffyrdd i helpu pobl sydd angen cymorth ychwanegol.