Search website

Cwestiynau Cyffredin – Y System Llyfrgell Newydd.

Newid System y Llyfrgell 6 Rhagfyr i 13 Rhagfyr.

Pam fod Conwy wedi newid systemau llyfrgell?

Mae'r contract gyda'n cyflenwr system gyfrifiadurol gyfredol yn dod i ben ac roedd yn ofynnol i ni ail-dendro ar gyfer y contract hwn. Gwnaed hyn ar sail Cymru gyfan, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

O ganlyniad bydd cyflenwr gwahanol yn darparu'r system rheoli llyfrgell pan ddaw'r contract presennol i ben.

Beth ddylwn i’w ddisgwyl?

Rhwng Rhagfyr 6 a Rhagfyr 13 2024 bydd y system rheoli llyfrgell yn newid a bydd tarfiad byr ar rai gwasanaethau llyfrgell.

• Byddwch yn dal i allu benthyg llyfrau yn eich llyfrgell leol ond bydd angen eich cerdyn llyfrgell arnoch.

• Byddwch yn dal i allu defnyddio'r cyfrifiaduron cyhoeddus ond bydd angen rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN.

• Ni ddylai ein hadnoddau digidol fel Borrowbox a Pressreader gael eu heffeithio yn ystod y cyfnod hwn gan ein bod yn gweithio i gadw cyn lleied â phosibl o darfu ar wasanaeth.

• Pan fydd y newid system wedi'i gwblhau efallai y byddwch yn dechrau derbyn hysbysiadau SMS neu e-bost am lyfrau hwyr neu geisiadau. Os byddai'n well gennych beidio â'u derbyn, gall staff ddiffodd y gwasanaeth hwn.

• Ni fydd ein WI-FI cyhoeddus yn cael ei effeithio yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ystod y cyfnod hwn ni fyddwch yn gallu defnyddio catalog ar-lein Conwy i chwilio llyfrau, gosod ceisiadau neu newid manylion eich cyfrif.

A fydd unrhyw effaith ar oriau agor llyfrgelloedd yn ystod y cyfnod hwn?

Na, bydd llyfrgelloedd yn parhau ar agor yn ystod y gwaith am eu horiau agor arferol.

A fyddaf yn gallu dychwelyd llyfrau ac eitemau eraill yn ystod y newid system?

Byddwch yn gallu dychwelyd llyfrau yn ystod y cyfnod hwn ond rydym yn garedig yn eich annog i'w dychwelyd ar ôl Rhagfyr 13, bydd cyfnod gras ar gyfer unrhyw lyfrau sy'n hwyr yn ystod y gwaith. Bydd hyn yn helpu ein staff llyfrgell i reoli'r newid a diolchwn i chi am eich amynedd.

A fyddaf yn gallu gofyn am eitemau yn ystod y newid system?

Na, ni ellir gwneud ceisiadau rhwng y dyddiadau hyn ond bydd unrhyw geisiadau a wneir cyn y newidiadau yn cael eu cario drosodd.

A fydd y peiriannau hunanwasanaeth yn gweithio?

Na, yn ystod y cyfnod hwn o newid system ni fydd y peiriannau hunanwasanaeth yn cael eu defnyddio ond gall staff helpu gydag ymholiadau wrth ddesg y llyfrgell.

Byddwch yn amyneddgar gyda ni yn ystod y newid i'r system gan fod y system mae’r staff yn defnyddio hefyd yn newid, rydym yn diolch i chi am eich amynedd ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Diolch am fod yn amyneddgar yn ystod y newid hwn.