Cymorth ar-lein
Os hoffech chi neu rywun rydych yn ei adnabod gael ychydig o help i fynd ar-lein, neu gefnogaeth i ddefnyddio’r rhyngrwyd neu e-bost, mae cefnogaeth am ddim ar gael.
Gall mynd ar-lein eich helpu i:
- Gadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a theulu
- Rheoli eich arian
- Chwilio am swyddi
- Ymgeisio am Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill
- Dysgu mwy am y pethau sydd o ddiddordeb i chi
Os hoffech chi neu rywun rydych yn ei adnabod gael help i fynd ar-lein, neu gefnogaeth i ddefnyddio’r rhyngrwyd neu e-bost, mae cefnogaeth am ddim ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol:
Byddem yn eich cynghori i drefnu ymlaen llaw, felly cysylltwch â’r llyfrgell i gadarnhau hynny i osgoi siom.
Nid oes raid i chi gael eich cyfrifiadur neu liniadur eich hun gartref. Fel aelod o’r llyfrgell, gallwch ddefnyddio un am ddim yno.
Cyrsiau TG
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau llythrennedd digidol mewn llyfrgelloedd gan Goleg Llandrillo, cysylltwch â Carrie Smith, Canolfan Dysgu’r Bae, Llyfrgell Bae Colwyn 01492 546666 Est 1537.