Search website

Defnyddio WiFi mewn llyfrgelloedd

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig WiFi diderfyn am ddim. Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol.

I ddefnyddio WiFi, rydych angen:

  • Cysylltu â’r rhwydwaith diwifr o’r enw AmDdim_Conwy_Free
  • Dylech weld tudalen groeso gyda dewis i fewngofnodi drwy Facebook neu Gofrestru
  • Dim ond unwaith fydd angen i chi gofrestru drwy roi cyfeiriad e-bost
  • Os na fydd y dudalen groeso yn ymddangos, agorwch borwr (megis Safari, Firefox, Chrome, Opera neu Internet Explorer) ac ewch i unrhyw wefan.

Defnyddio cyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd

Rydym yn darparu mynediad am ddim at gyfrifiaduron Windows ar gyfer pori’r we neu ddefnyddio meddalwedd megis Microsoft Office. Mae gennym hefyd fynediad at feddalwedd cynorthwyol fel Boardmaker ar rai cyfrifiaduron.

Mae angen bod yn aelod o’r llyfrgell i allu defnyddio’r cyfrifiaduron.

Mae gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd gyfrifiaduron sydd ar gael heb drefnu ymlaen llaw, ond gellir gwneud hynny drwy gysylltu â’r llyfrgell.

Argraffu, copïo a sganio

Gallwch argraffu a sganio ar gyfrifiaduron y llyfrgell. Mae ein llyfrgelloedd mwyaf hefyd yn cynnig gwasanaethau llungopïo.

Gallwch argraffu o’r we neu ddod â chof bach â ffeil arno i’w ddefnyddio ar gyfrifiadur y llyfrgell neu lungopïwr.

Costau argraffu a chopïo.

Hidlo ar gyfrifiaduron cyhoeddus a Wi-Fi

Mae mynediad i’r rhyngrwyd drwy gyfrifiaduron y llyfrgell a WiFi yn destun hidlo. Yn unol â’n Polisi Defnydd Derbyniol, byddwn ond yn atal mynediad at wefannau neu dudalennau os bydd gwefan:

  • yn cyhoeddi deunyddiau anghyfreithlon
  • yn cyhoeddi deunyddiau o natur hiliol neu homoffobig
  • yn cyhoeddi deunyddiau a ystyrir gennym yn bornograffig neu dreisgar iawn

Rydym yn cadw’r hawl i atal unrhyw wefan o’n dewis.

Mae ein mynediad i’r rhyngrwyd yn cael ei hidlo gan drydydd parti; ond gallwn ofyn am i safle neu dudalen gael eu caniatáu pan fyddwch yn mynd arnynt ar un o’n cyfrifiaduron.

Os ydych yn teimlo ein bod yn atal gwefan na ddylem, cysylltwch â ni ar llyfrgell@conwy.gov.uk