Search website

Meddalwedd Boardmaker

Mae Boardmaker yn feddalwedd cyfrifiadurol yn cynnwys miloedd o symbolau cyfathrebu â llun y gellir eu defnyddio ag unrhyw un sydd angen cymorth ychwanegol â chyfathrebu yn cynnwys:

  • Plant ac oedolion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, anawsterau dysgu a/neu anableddau corfforol
  • Unrhyw un ag Amhariad Iaith Penodol
  • Pobl â Saesneg fel iaith ychwanegol
  • Unrhyw un ag anabledd neu amhariad sy’n effeithio ar gyfathrebu neu’r cof
  • Pobl hŷn â rhai mathau o ddementia neu unrhyw un sydd wedi colli sgiliau iaith yn dilyn strôc.

Mae Boardmaker ar gael i’w ddefnyddio am ddim ar rai cyfrifiaduron yn Llyfrgelloedd Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r llyfrgell cyn ymweld i archebu cyfrifiadur Boardmaker. Gallwch hefyd drefnu sesiwn ag aelod o staff i ddysgu sut i ddefnyddio Boardmaker ac yna’i ddefnyddio pan fyddwch angen argraffu eich symbolau.

Cysylltwch â’r llyfrgell am fwy o wybodaeth, neu i archebu’r cyfrifiadur cyn eich ymweliad.

Technoleg gynorthwyol

I wneud ein cyfrifiaduron yn haws eu defnyddio, mae gennym ystod o feddalwedd a chaledwedd gwahanol yn cynnwys monitorau â sgrin fawr, desgiau uchder symudol, llygoden llwybro, a bysellfyrddau ag allweddi mawr sy’n haws eu gweld.

Mae cyfrifiaduron â thechnoleg gynorthwyol ar gael yn Llyfrgelloedd Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Bae Cinmel, Llandudno, Llanrwst, a Phenmaenmawr.