Winter Light
Y stori hyd yn hyn
Yn 2019 cyrhaeddodd Golau Gaeaf strydoedd Llandudno gyda Phenodau 1 a 2 o’r chwedl epic hon.
Pennod 1: Gwelodd ‘Yr Helfa’ yr anhygoel Ychen Bannog, ychen Hugh Gadarn, a’r Llychlynwyr a orchfygodd y Gogarth ar un adeg, yn gorymdeithio drwy’r strydoedd wrth iddynt chwilio’n ddiddiwedd am Fôr-forwyn Conwy. Ymunodd Meistr y Cylch drygionus â nhw gyda'i osgordd Syrcas a'i Forwyr Tywyll. Byddai'r Fôr-forwyn yn gwneud gwobr wych ar gyfer ei gasgliad syrcas i ddenu torfeydd - ond ble mae hi?
Pennod 2: Parhaodd ‘Pwrs y Fôr-Forwyn’ y stori gyda thafluniad syfrdanol yng Ngerddi’r Gogledd Orllewin. Dangosodd hyn erledigaeth y fôr-forwyn dros y canrifoedd gan y Llychlynwyr, Hugh Gadarn a Meistr y Cylch, a sut iddi osgoi gael ei dal yn barhaus – gan rasio a brwydro trwy'r tonnau.
Tachwedd 2021
Pennod 3 “Y Ddalfa” perfformiad teithiol llai i gymunedau tref yng Nghonwy. Cyfle i wylio’r rhan nesaf o’r stori wrth iddi ddatod. Y sibrydion oedd bod y fôr-forwyn wedi cael ei dal o'r diwedd...