Llanrwst
Gŵyl Dafydd ap Siencyn
Dros 500 mlynedd yn ôl bu Llanrwst a chaer goedwig Gwydir yn Nyffryn Conwy yn gartref i wrthryfelwr, y mae ei gampau, boed yn wir neu beidio, wedi ennill iddo'r teitl o Robin Hood Cymru: Dafydd ap Siencyn. Mae’r ŵyl hon yn dathlu’r gwrthryfelwr, y bardd a’r heriwr hwnnw.
Yn ail flwyddyn yr ŵyl, symudwyd yr ŵyl i fis Medi ac roedd y penwythnos yn cynnwys dros 40 o ddigwyddiadau gwahanol o amgylch tref Llanrwst a choedwig Gwydir. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys ail-greu canoloesol, sgyrsiau hanesyddol, celf coedwig a mwy.
Darparwyd arian cyfatebol gan Gyngor Tref Llanrwst ar gyfer y digwyddiad mawr hwn.
Prosiect Ffenestri Siopau Gwag
Prosiect peilot a oedd yn anelu i adfywio rhai o ffenestri siopau gwag yn Llanrwst yn defnyddio finyls gyda graffeg arnynt a oedd yn arddangos diwylliant a threftadaeth y dref.
Mae un ffenestr wedi cael ei chwblhau ar Sgwâr Ancaster (gyda chaniatâd caredig Cartrefi Conwy) sy’n arddangos silffoedd llyfrau ar y finyl. Gweithiodd arweinydd y prosiect gyda Bys a Bawd i ganfod teitlau llyfrau Cymraeg a ysgrifennwyd yn ardal Llanrwst, neu awduron Cymraeg a oedd yn ysgrifennu yn Saesneg.
Mae astudiaeth ddichonoldeb wedi cael ei chreu yn defnyddio’r costau a ysgwyddwyd a’r adborth a dderbyniwyd. Gobeithir y bydd y prosiect hwn yn parhau dan gyllid newydd.
Llanast Llanrwst
Mae’r ŵyl gerddoriaeth Gymraeg hon sy’n cael ei chynnal gan bwyllgor o aelodau’r gymuned a Menter Iaith yn cefnogi busnesau lleol ac yn cynnig mynediad at gigs am bris isel neu am ddim. Gydag arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU roeddent yn gallu cynnwys rhaglen estyn allan wrth nesáu at benwythnos yr ŵyl a oedd yn cynnwys gweithdai mewn ysgolion a noson gomedi.
Dangosiadau Ffilm Cymunedol
Dros y 12 mis diwethaf, mae Tîm Tref Llanrwst wedi ariannu Sinema Gymunedol yng Nglasdir drwy arian Ffyniant Gyffredin y DU. Dangoswyd pedair ffilm mewn partneriaeth gyda Chreu Conwy, Theatr Colwyn ac Oriel Colwyn, ac fe fynychodd 75 o blant ac oedolion. Roedd y digwyddiadau cost isel neu am ddim hyn wedi’u hanelu at deuluoedd ifanc yn bennaf, fodd bynnag, yn ystod mis Tachwedd, dangoswyd ffilm Hedd Wyn ar gyfer oedolion. Roedd y lleoliad a ddewiswyd, sef Glasdir, yn un teimladwy iawn, gan mai ar y safle yma yr oedd Sinema Luxor a gaeodd yn 1966.
Planetariwm Symudol
Arweiniodd gydweithrediad rhwng preswylwyr lleol, Golygfa Gwydyr a Phrosiect Carneddau at ddod â phlanetariwm symudol i dref Llanrwst. Croesawyd 278 o blant ac oedolion i’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn i fwynhau sioe ar y thema cytserau. Tynnodd y digwyddiad hwn hefyd sylw newydd at brosiect ‘Darganfod yr Awyr Dywyll’ Golygfa Gwydr a phrosiect ‘Awyr Dywyll’ y Carneddau. Roedd gan y ddau bartner fyrddau gwybodaeth yn bresennol yn y digwyddiad.