Llandudno
The Longest Yarn
Daeth The Longest Yarn i Eglwys y Drindod, Llandudno ym mis Hydref 2024.
Roedd y deyrnged fis o hyd hon i’r Ymdrech Ryfel yn 1944 yn cynnwys 80 o baneli wedi’u gweu i nodi 80 mlynedd ers glaniadau D-Day. Gosodwyd ffigyrau wedi’u gweu o Churchill a Thanc A.V.R.E yng Nghanolfan Siopa Fictoria ac roedd y Fantell Babïau brydferth i’w gweld yn ffenestr siop Clare’s. Roedd y llwybr pabïau drwy’r dref yn mynd â chi at y rhain a mannau eraill o ddiddordeb cysylltiedig â’r Ail Ryfel Byd.
Cefnogwyd y prosiect hwn gan bartneriaid megis Amgueddfa’r Home Front, Amgueddfa Llandudno a Menter Iaith.
Gweithredodd curadur Amgueddfa’r Home Front fel ymgynghorydd i sicrhau cywirdeb hanesyddol.
Darparodd Amgueddfa Llandudno gefnogaeth gyda gweithdai amrywiol a sgyrsiau i goffáu D-Day.
Fe wnaeth Menter Iaith gomisiynu arweinwyr prosiect i gefnogi gyda chasglu hanesion lleol ac atgofion o gyfnod y rhyfel yn y Gymraeg i greu adnodd byw o hanes cymdeithasol. Bydd y recordiadau yn cael eu cadw yn yr amgueddfa i bawb gael eu mwynhau.Roedd Llandudno yn falch iawn o chwarae rhan yn y daith fyd-eang hon.
Bocsŵn
Cynhaliodd Menter Iaith weithdai Bocsŵn i blant rhwng 10 ac 16 oed. Mae’r sesiynau hyn yn caniatáu i blant gael mynediad at offerynnau a’r cyfle i chwarae gydag eraill.
Gigs Cymraeg
Cynhaliodd Menter Iaith ddwy gig iaith Gymraeg yn Llandudno yn y gobaith o ymgysylltu a thyfu’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn y dref.
Twmpath / Dawnswyr o Gymru a Gwlad y Basg
Cynhaliodd Dance Collective ddigwyddiad Twmpath arbennig yn Venue Cymru yn ystod mis Mai 2024. Croesawyd 54 o gerddorion a dawnswyr o Herri Arte Eskola yng Ngwlad y Basg fel rhan o daith gyfnewid rhwng diwylliannau. Y band lleol Lo-Fi oedd prif berfformwyr y digwyddiad ac roedd dros 160 o bobl yn bresennol ar y noson. Roedd yr arddangosfa hon o ddawns a cherddoriaeth o gymorth i bobl weld a gwerthfawrogi diwylliant gwahanol yn ogystal â mwynhau a chynnal eu diwylliant eu hunain hefyd.