Search website

Garanod Heddwch

Wedi’u hysbrydoli gan stori Sadako Sasaki, bu Eglwys y Santes Fair yng Nghonwy yn cydweithio gyda Chanolfan Gadwraeth Pensychnant i greu gosodiad celf cymunedol o dros 1000 o aranod heddwch origami: Garanod Heddwch - Gosodiad Celf Cymunedol - caruconwy.com

Mae’r gosodiad yn dathlu tref Conwy yn gefeillio â Himeji yn Japan, enghraifft wych o gydweithrediad a chyfeillgarwch rhyngwladol. Cynhaliwyd dros 50 o weithdai yn y gymuned ac mewn ysgolion dan gyfarwyddyd Lynn Williams, aelod o’r Gymdeithas Origami Brydeinig.

Roedd y garanod i’w gweld yn yr eglwys drwy gydol yr haf a’r hydref 2024 cyn iddynt gael eu troi’n arddangosfa ffotograffau mewn partneriaeth â Chlwb Camera Conwy. Bydd yr arddangosfa i’w gweld yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy o fis Rhagfyr 2024 hyd at fis Chwefror 2025.

Rhaglen Ymylol Gŵyl Gerddoriaeth Glasurol Conwy

I gefnogi twf yr ŵyl flynyddol hon, cynlluniwyd digwyddiadau ymylol rhwng cyngherddau’r brif ŵyl. Roedd y digwyddiadau bach hyn yn arddangos ystod o genres cerddorol ac yn cael eu cynnal mewn lleoliadau diwylliannol gyfoethog megis y Capel Cudd a Phlas Mawr. Roedd y digwyddiadau ymylol yn caniatáu i’r ŵyl ehangu i’r dref a chyflwyno detholiad mwy amrywiol o gerddoriaeth.

Llwybr Adar Conwy

Mewn cydweithrediad â’r prosiect Carneddau, cynhaliwyd gweithdai celf i gefnogi dylunio a chreu cerfluniau adar copr. Gosodwyd y rhain ar adeiladau arwyddocaol o amgylch y dref i greu llwybr. Comisiynwyd artist lleol i greu map hyfryd i’ch arwain at y safleoedd amrywiol a rhoi ychydig o wybodaeth i chi am yr adeiladau a ddewiswyd.

Roedd Canolfan Ddiwylliant Conwy wedi’i chynnwys ar y llwybr ac mae yno frân gopr fawr a thair garan i’w gweld a’u mwynhau. Ychwanegwyd y garanod fel cyfeiriad at y prosiect Garanod Heddwch ac mae gan bob un linellau o’r gerdd a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect yn Gymraeg, Saesneg a Japaneg.

Gallwch gael map o Lyfrgell Conwy neu fe allwch sganio’r cod QR i weld map digidol ac i gael gwybodaeth fwy manwl am adeiladau arwyddocaol Conwy.

Archesgob John Williams

Comisiynwyd panel dehongli newydd i goffau’r Archesgob John Williams a’i wasanaeth i dref Conwy yn ystod y Rhyfel Cartref rhwng y Brenin Charles I ac Oliver Cromwell.