About Creu Conwy Town Teams
Mae Timau Tref Creu Conwy wedi’u dwyn ynghyd yn nhrefi mwyaf Conwy (Abergele, Conwy, Bae Colwyn, Llandudno a Llanrwst). Mae’r grwpiau traws-sector hyn, gyda chynrychiolaeth o’r sector cymunedol a chreadigol wedi arwain ar brosiectau sydd wedi’u hysbrydoli gan yr ardal leol ac sy’n ymateb i ddiddordebau ac anghenion lleol.
Mae prosiectau Creu Conwy a’r nod o’u cyflawni rhwng 2023 a 2025 wedi’u hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
E-bost: creu@conwy.gov.uk
Rhif ffôn: 01492 576139