Abergele
'Here Be Dragons' oedd thema Abergele ar gyfer eu digwyddiadau oedd yn cynnwys gweithdai, adeiladu cuddfannau a mwy, fel y rhestrir isod!
- Gweithdai ar y thema Bwystfilod / Chwedlau / Dreigiau:
- Gweithdai seramig gyda The Peculiar Gallery.
- Gwnaed draig fawr drwy weithdai cymunedol, gweithdai mewn ysgolion a The Peculiar Gallery - dangoswyd y ddraig yn nigwyddiad Shakespeare yn y Parc a Diwrnod Hwyl Abergele.
- Gweithdai ysgrifennu creadigol gyda Diane Woodrow o’r Grŵp Ysgrifennu Barefoot at the Kitchen Table
- Gweithdai dwyieithog ar ysgrifennu creadigol, cerddoriaeth, barddoniaeth a chrochenwaith gyda’n partneriaid Menter Iaith a Gwreiddiau Gwyllt.
- Gweithdai dwyieithog ar gyfer ysgolion - creu baneri, pypedau a storïau.
- Stori ddwyieithog am ddraig a grëwyd ar gyfer Traeth Breuddwydion.
- Cynhaliwyd panel dehongli Bwyd Bendigedig ac fe grëwyd map o’r llwybr.
- Gweithdai Plannu Abergele yn ei Blodau.
- Gweithdy crochenwaith drwy gyfrwng y Gymraeg ar thema’r amgylchedd naturiol gyda Gwreiddiau Gwyllt.
- Gweithgaredd Adeiladu Den yn Niwrnod Hwyl Abergele gyda Sied Ieuenctid Abergele.
- Cefnogwyd twf Ffair Nadolig Abergele er mwyn paratoi ar gyfer y digwyddiad eleni gyda chrefftwr ar gyfer plant, côr a band pres lleol ac adloniant stryd proffesiynol.