Mae gwylanod yn nodweddion amlwg yn yr ardal. Llysenw Clwb Pêl-Droed Bae Colwyn, a sefydlwyd yn 1881, ydi’r ‘Gwylanod’. Yn ystod yr ymgynghoriad soniodd ymwelwyr fod clywed gwylanod yn eu hatgoffa o fynd ar wyliau i Fae Colwyn. Tybed fedrwch chi ddod o hyd i’r 29 gwylan sy’n cysylltu’r llwybr, gobeithio hefyd y gwnewch chi fwynhau darllen y penawdau newyddion ffug sydd wedi’u hargraffu arnyn nhw!
Seagulls, Various Locations
Disgrifiad artist Theatr Byd Bychan
Wedi’u creu allan o ddur 3mm, ac wedi’u gorchuddio gyda phenawdau newyddion dwyieithog ar finyl.