Search website
Land girl 3

Mae’r gosodiad hwn yn dathlu rôl arwyddocaol Bae Colwyn yn yr Ail Ryfel Byd fel canolfan weinyddu ar gyfer y Weinyddiaeth Fwyd. Cafodd llawer o adeiladau lleol eu meddiannu, yn cynnwys y Metropole ar waelod Ffordd Penrhyn lle cewch chi hyd i ‘Nancy’ (fel y’i gelwir hi). Cafwyd yr ysbrydoliaeth gan y posteri Dig for Victory a’r prosiect Incredible Edibles yng nghanol y dref.

Mae’r gosodiad hwn yn ennyn trafodaeth ar wastraff bwyd. Ar gyfartaledd roedd dogn oedolyn ar adeg y rhyfel yn 113g o facwn a ham (tua phedair sleisen denau), gwerth swllt a deg ceiniog o gig (tua 227g o friwgig), 57g o fenyn, 57g o gaws, 113g o fargarin, 113g o olew coginio, 3 pheint o lefrith, 227g o siwgr, 57g o de ac 1 wy. Er ein bod ni’n gwella, mae aelwydydd y DU yn dal yn taflu gwerth 4.5 miliwn tunnell o fwyd bwytadwy bob blwyddyn! Beth fedrwn ni ddysgu o ddognau'r 1940au?

Darganfyddwch fwy am hanes y Weinyddiaeth Fwy ym Mae Colwyn drwy wylio’r animeiddiad yma yn a lawrlwytho ap y Llwybr Dychmygu yn www.imaginetrail.com.

Disgrifiad artist Theatr Byd Bychan

Paent acrylig ar bren haenog morol.